P-06-1168 Ystyriwch ail-wneud y flwyddyn academaidd gyfredol hon ar gyfer myfyrwyr ar draws cymru

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Hayley Whittington-Pike, ar ôl casglu cyfanswm o 184 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

Rwy'n erfyn ar y llywodraeth i ystyried ail-wneud y flwyddyn academaidd hon pe bai cau ysgolion yn dod yn rhan o’r cyfyngiadau “cyfnod atal byr”. Nid yw'n deg disgwyl i'r plant ddal i fyny ag addysg a gollwyd y llynedd, tra’n cael blwyddyn academaidd sy’n dechrau / stopio eleni. Ni ddylid atal ein plant rhag cyflawni eu potensial llawn, ac ni ddylem ni fel rhieni fod yn derbyn eu bod dim ond - yn dod drwyddi rywsut. Nid oes gan bob plentyn yr un moethau o ran rhieni gartref i helpu / mynediad at adnoddau.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Dwyrain Casnewydd

·         Dwyrain De Cymru